Stryd y Plas

Croeso i Stryd y Plas, Caernarfon, stryd lydan llawn siopau a busnesau annibynnol amrywiol. Isod, mae cyflwyniad byr a syml i bob busnes yn y stryd, ynghyd â dolen i safle we neu gyfrwng cymdeithasol y busnesau hynny.

Bonta Deli

Manylion

Deli yn arbenigo mewn bwyd o Gymru a’r Eidal. Cawsiau, cigoedd, cynnyrch lleol, coffi ffres, brechdanau a phrydau ffres. Da ni’n angerddol am fwydydd lleol o ansawdd uchel. 01286671308
facebook

Lotti & Wren

Manylion

Agorodd Lotti & Wren yn 2004 i hyrwyddo dyluniad annibynnol lliwgar, hwyliog o Gymru a’r DU. Yn arbenigo mewn anrheg, nwyddau cartref ac ategolion. Darganfyddwch fwy ar @lottiandwren
facebook

Siop Manon

Manylion

Siop liwgar a llachar sydd yn cyfuno’r hen a’r newydd – dewch a’ch sbectol haul a mwynhewch y nostaljia Instagram

Palas Print

Manylion

Siop lyfrau annibynnol yng nghanol tref caerog Caernarfon yn gwerthu llyfrau Cymraeg a Saesneg o Gymru a’r byd.
Gwefan

Siop Iard

Manylion

Siop a Gweithdy Gemwaith. Rydyn ni’n creu ac yn gwerthu cynhyrchion lleol, gwreiddiol, moethus a wnaed â llaw. Mae’r siop yn brolio amrywiaeth o emwaith, wedi’u gwneud â llaw gan dîm o wneuthurwyr annibynnol profiadol a thalentog yn ein gweithdy cynllun agored: Ann Catrin Evans, Angela Evans, Elin Mair (Janglerins), Charlotte Bellis a Hanna Liz.
01286 672 472.

Gwefan

Petalau Pert

Manylion

Siop flodau yw Petalau Pert sy’n gosod blodau ar gyfer pob achlysur, boed yn anrheg, priodas, penblwydd ac angladdau.
Mi wnaf fy ngorau i gynnig arweiniad a gwasanaeth i siwtio eich gofynfion.
Cysylltwch a fi drwy fb, instagram, ebost- petalaupert@gmail.com neu ffoniwch 01286673002 Instagram

YLP Haberdashery

Manylion

Rydym yn gwerthu ystod fendigedig o ddefnydd, gwlân, “haberdashery” chyflenwadau crefft. Gall YLP Haberdashery ddarparu popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect nesaf!

Instagram