NEUADD y Farchnad
Mae yna fenter newydd cyffroes ar y stryd, lle mae criw wedi dod ynghyd i geisio prynu NEUADD y Farchnad fel menter cymunedol.


Mae’r NEUADD wedi ei werthu bellach, ond nid i’r fenter.
Hoffem ddiolch i bawb wnaeth gefnogi’r fenter drwy addunedu buddsoddiad
Mi wnaethom ein gorau, ond nid oeddem ni mewn sefyllfa i gynnig mwy na 15% yn uwch na’r prisiad wnaethom ei dderbyn.
Yr oeddem yn falch iawn o gydweithio efo criw o bobl ifanc a oedd mor frwdfrydig dros y fenter.
Yr oeddem o’r farn mai
Dim ond fel menter cymunedol gall NEUADD y Farchnad gyrraedd ei lawn potential
Pob dymuniad da i’r perchennogion newydd gan obeithio eu bod yn rhannu ein gweledigaeth
Datganiad Pwyllgor NEUADD y Farchnad
Yr oedd yn siom derbyn hysbysiad gan y perchnogion lleol eu bod wedi derbyn cynnig gan rhywun i brynu Neuadd y Farchnad am bris oedd yn ‘sylweddol’ uwch na’r hyn y wnaethom ei gynnig er fod y cynnig yna yn sylweddol uwch na’r prisiad yr oeddem wedi ei dderbyn.
Da ni ddim am rhoi’r gorau iddi ac am brofi mai dyhead pobl fyddai i’r gymuned fod yn berchen NEUADD y Farchnad
Da ni’n falch iawn o’r hyn da ni wedi ei gyflawni mewn cyfnod byr. Mae’n bleser cydweithio efo criw o bobl ifanc brwdfrydig
Da ni wedi
- Sefydlu pwyllgor efo mwyafrif yn bobl ifanc
- Cofrestru Cymdeithas er budd Cymunedol
- Wedi ymgynghori a sicrhau cefnogaeth nifer o fentrau/cwmniau cymunedol a phreifat
- Yn y broses o sicrhau grant i brynu’r adeilad gan Grant Adnoddau Cymunedol Llywodraeth Cymru.
- Wedi sicrhau grant a caelprisiau ar gyfer gwaith pensaerniol ac ymgynghori efo’r gymuned
- Cynhyrchu a dosbarthu taflenni yn gwahodd pobl i fynegi ymrwymiad i fuddsoddi yn y fenter a sicrhau addunedau a’r ymgyrch yn creu momentwm
- Presenoldeb gref ar cyfryngau cymdeithasol efo clipiau fideo gan gefnogwyr ifanc
Safle we strydyplas.cymru efo gwybodaeth a cyfle i gefnogi
Da ni felly yn galw ar bobl i ddangos eu cefnogaeth trwy gwneud adduned y byddent yn cefnogi’r fenter. Ni fydd hyn yn ofer achos yr ydym oll wedi dysgu o’r profiad ar gobaith yw y bydd cyfle eto i sefydlu menter cymunedol.
Be bynnag a ddigwydd bydd y weledigaeth yn fyw a bydd dal i’w weld ar y wefan. Gobeithio bydd hyn yn adlewyrchu beth mae’r gymuned am ei weld yn y Neuadd.
Aelodau’r Pwyllgor
Selwyn Jones
Huw Bebb
Cai Gruffydd
Buddug Roberts
Rhys Harris
Nia Haf
Deio Owain Huws
Selwyn Jones

Pensaer wedi ymddeol yw Selwyn Jones. Bu’n drefnydd Cymdeithas Tai Eryri o’i gychwyn hyd at 1996, pan gychwynodd ei gwmni pensaerniol PenSel Cymunedol. Fel mae’r enw’n awgrymu, roedd PenSel yn canolbwyntio ar bensaerniaeth cymunedol, megis neuaddau pentref (Rhiwlas, Sarn Mellteyrn, Abergynolwyn, Llanrug, Nefyn ayb), ac adnoddau cymunedol eraill. Trwy gydweithio gyda grwpiau cymuned byddai PenSel Cymunedol yn datblygu adnoddau oedd yn ymateb anghenion y gymuned a’u dyheadau, mewn ffordd cynaliadwy ac amgylcheddol glên.
Mae Sel cefnogi ei bartner Eirian i rhedeg sipo lyfrau Palas Print, ac hefyd yn gyfrifol am rhedeg a chynnal adeiladau 10 a 12 Stryd y Plas.
Yn ei amser sbâr, mae’n ymgyrchydd dros hawliau ieithyddol yng Nghymru, a chyfiawnder a hunan-benderfyniad (self-determination) i bawb, ond yn arbennig pobl Palestina.
Huw Bebb

Yn wreiddiol o Gaernarfon, graddiodd Huw o Brifysgol Bangor mewn Cymraeg a Hanes yn 2019. Wedi hynny, treuliodd sawl blwyddyn yn gweithio fel newyddiadurwryng Nghaerdydd cyn ddychwelyd adref, gan ei fod yn gweld ei ddyfodol yng Nghaernarfon.Bellach mae’n gweithio yn y Ganolfan Gwirfoddoli ym Mantell Gwynedd, ac mae hefyd wedi treulio cyfnod yn gweithio ym maes datblygu cymunedol.
Yn ei amser rhydd, mae Huw yn un o gyfarwyddwyr cwmni trefnu gigs Tin Sardins Cyf ac yn aelod o’r band hip-hop 3 Hwr Doeth. Mae’n gweld Neuadd y Farchnad fel cyfle euraidd i greu rhywbeth arbennig i Gaernarfon, gan sichau buddhirdymorir gymuned leol.
Cai Gruffydd

Mae Cai wedi ei fagu yn yr ardal ac wedi bod yn rhan o’r sîn gerddoriaeth lleol ers ei ddyddiau ysgol. Fel rhan o dîm Tin Sardines, mae wedi bod yn trefnu a chynnal gigs yng Nghaernarfon ers rhai blynyddoedd bellach. Dadansoddwr busnes yw Cai yn ei waith gyda chefndir mewn archwilio a rheoli newid.
Buddug Roberts

Ymarferydd creadigol llawrydd a myfyrwraig doethuriaeth yw Buddug Watcyn Roberts. Gyda ffocws y ddoethuriaeth ar theatr gymunedol a chyd-greu, mae’n treulio rhan helaeth o’i hamser yn y gymuned – yn gwrando ar leisiau’r ardaloedd arbennig o’i hamgylch, ac yn rhoi llwyfan i’w syniadau a’u teimladau. Yn wreiddiol o ardal Dyffryn Ogwen, mae cerddoriaeth a mannau cymunedol yn greiddiol i’w magwriaeth, a gwêl bwysigrwydd allweddol gofodau creadigol cymunedol fel rhan o ddiwylliannau amrywiol y Gymru gyfoes.
Rhys Harris

Mae Rhys yn gyfrifydd wedi ymddeol, gyda phrofiad helaeth o weithio gyda busnesau ac unigolion yn y sector ceddoriaeth / creadigol. Fe fu’n un o’r criw oedd yn trefnu gigs Noson 4 a6 yng Nghaernarfon, ac mae ganddo gysylltiadau agos gydag unigolion sy’n brysur yn y sîn roc a gwerin yng Nghymru.
Deio Owain Huws

Gwyddonydd Biofeddygol o Gaernarfon yw Deio Huws. Cafodd ei eni a’i fagu yn yr ardal ac wedi gweld y Neuadd yn newid ac yn datblygu dros y blynyddoedd. Mae ganddo ddidordeb ym myd cerddoriaeth Gymraegacyn gweld angen argyfer platfform i gefnogi artistiaid. Yn ystod ei gyfnod yn astudio yng Nghaerdydd sefydlodd wefan Siop Llanbleddian sy’n gwerthu nwyddau artistiaid Cymraeg. Mae’n angerddol dros gael hwb yng nghanol Caernarfon fydd yn hafan i holl fwrlwm y dref.
