

Bydd Neuadd yn cynnig:
- lleoliad cerddoriaeth fyw a digwyddiadau celfyddydol ddiwylliannol
- unedau masnachol i fusnesau lleol
- bwyty a chaffi croesawgar
- marchnad fywiog, gofod hygyrch a hwbcyson i’r gymuned
- lle i bobl lleol gael mynediad at wasanaethau, gwybodaeth, cymdeithasu a chefnogaeth
Bydd Neuadd yn dathlu diwylliant a hunaniaeth Caernarfon, gan greu cyfleoedd newydd i bobl leol ddod ynghŷd – i gyfarfod, cydweithio, arbrofi, a rhannu syniadau ac egwyddorion er budd y gymuned.
Mae Caernarfon yn dref fywiog ac egnïol, a bwrlwm Stryd y Plas yn crynhoi gwerthoedd pobl Dre – yn annibynnol, lleol, Cymreig, a chymuned yn llifo drwyddi. Dyma gyfle arbennig i gynnig man cyfarfodi egwyddorion cymunedol arbennig y dref hon – yn bobl ifanc, pobl dre, mudiadau, busnesau ifanc a hen fusnesau – unrhyw un sydd ag awch rhannu a chydweithio.
Gaddo buddsoddiYr ydym yn y broses o gofrestru’r fenter fel Cymdeithas er budd Cymunedol a byddwn yn paratoi cynnig ffurfiol i bobl brynu siars yn y fenter.
Yn y cyfamser da ni’n gofyn i bobl addunedu i brynu siar/iau yn y fenter unwaith bydd y cynnig siars ffurfiol yn cael ei lansio. Bydd yr ymrwymiad yma yn dangos i gyllidwyr eraill a’r perchnogion ein bod o ddifri. Mae genym cyfnod byr i ddangos bod digon o ddiddordeb a’n nod yw cyrraedd £50,000 o addunedion.
